Enillodd Ivor Novello ganmoliaeth i Gymru ar draws
y byd, ond yr unig gofeb iddo yn ei famwlad yw plac
lliw glas ar wal y tyˆ yng Nghaerdydd lle cafodd ei eni.
Bydd Apêl Cymru’n cofio Ivor Novello, yr actor byd
enwog, cyfansoddwr ac awdur, drwy godi cerflun yn
Mae Caerdydd y tu i Ganolfan Mileniwm Cymru. Roedd Ivor Novello yn enwog fel
seren ffilmiau yn America ac ym
Mhrydain, gan ymddangos mewn
mwy nac ugain o ffilmiau ac yr un
mor llwyddiannus fel actor theatr
mewn dramâu, comedïau ac, ym
1938, fel Henry V yn nrama
Shakespeare.
Roedd e hefyd yn ysgrifennu
adolygiadau, dramâu a sgriptiau
ffilm, ond roedd ei dalent yn fwyaf
amlwg yn ei ganeuon, ei ddramâu
cerdd a’i gomedïau.
Mae ei
gynyrchiadau mwyaf llwyddiannus
yn cynnwys Glamorous Night
(1935), Careless Rapture (1936),
The Dancing Years (1939), ac wedi’r
rhyfel ysgogodd Perchance to Dream
a King’s Rhapsody i Brydain, a’r byd
i gyd, ganu. . |
Bu farw ym 1951 yn ei
fflat uwchben Theatr y Strand yn
Llundain, ychydig oriau wedi iddo
berfformio’r brif ran yn
King’s Rhapsody.
Peilot adeg y rhyfel: Yn y
rhyfel byd cyntaf, wedi iddo
gyfansoddi un o’r caneuon rhyfel
mwyaf teimladwy erioed, Keep The
Home Fires Burning, perfformiodd
Ivor Novello o flaen y lluoedd ar
Ffrynt y Gorllewin cyn gwasanaethu
fel peilot yng Ngwasanaeth Awyr
y Llynges Frenhinol, gan oroesi dwy
ddamwain.
Apel am Gerflum Bydd y cerflun efydd ysblennydd deuddeg troedfedd o
uchder yn cael ei leoli yn y plaza, y tu allan i Ganolfan
Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd.
““Rydym bron hanner y ffordd at
gyrraedd ein targed o £85,000 i
gwblhau’r cerflun,” meddai’r dyn a
ddechreuodd Apêl Novello, Hilary
David. Ef a gomisiynodd y cerflun
ac a ddechreuodd yr ymdrech godi
arian.
Gallwch ein helpu ni i
wireddu’r freuddwyd hon drwy
wneud cyfraniad hael at gronfa’r
cerflun a fyddwch chi’n ymuno â ni
i ddathlu un o’r serennu mwyaf
enwog Cymru ar y llwyfan, y sgrin
ac yn y theatr gerddorol. |
|